Cardiff Central Station | Gorsaf Ganolog Caerdydd
Some great news that will benefit people across the region; thanks to the UK and Welsh Governments working together with Cardiff Capital Region, we will see a huge investment and transformation of Cardiff Central station over the next few years.
Travellers to, from and through Cardiff Central will benefit from a revamped station, thanks to more than £77 million approved by the UK Government.
The project will see the complete transformation of Wales’ busiest railway station, with a new landmark southern entrance, a larger main concourse and extended platform 0 to increase capacity at the station - that welcomes more than 35,000 people a day, and many thousands more during major events such as the Six Nations and concerts.
This funding takes the UK Government total for the project to modernise Cardiff Central station to £77.8m, which is supported by an additional £40m from Cardiff Capital Region City Deal and £21m from the Welsh Government.
This project is part of a wider £445m investment from the UK Department for Transport to deliver improvements to rail infrastructure across the whole of Wales including increased train services to Cardiff, new stations in South Wales, and increased services on the North Wales Mainline and Wrexham-Liverpool line.
Alongside the funding, the final business case for the transformation has been approved, giving the green light for work to get under way in Spring 2026, with the majority of the work completed by 2029.
___
Newyddion gwych bydd yn elwa pobol ardraws y rhanbarth; diolch i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn gweithio gyda’i gilydd gyda Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, fe welwn fuddsoddiad enfawr a thrawsnewid Gorsaf Ganolog Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd teithwyr i, o ac drwy Orsaf Ganolog Caerdydd yn elwa o orsaf wedi ei hadnewyddu, diolch i fwy na £77 miliwn sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU.
Bydd y prosiect yn gweld trawsnewidiad llwyr gorsaf reilffordd brysuraf Cymru, gyda mynedfa’r de newydd nodedig, prif gyntedd mwy fawr ac estyniad i blatfform 0 i gynyddu capasiti yr orsaf – sy’n croesawu mwy na 35,000 o bobl bob dydd, a llawer mwy yn ystod digwyddiadau mawr fel y Chwe Gwlad a chyngherddau.
Mae’r cyllid hwn yn dod a buddsoddiad Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect i foderneiddio Gorsaf Ganolog Caerdydd i £77.8m, gyda chefnogaeth ychwanegol o £40m gan Bargen Ddinesig Prifddinas- Rhanbarth Caerdydd, a £21m gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach werth £445m gan Adran Drafnidiaeth y DU i gyflwyno gwelliannau i seilwaith rheilffyrdd ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys mwy o wasanaethau trên i Gaerdydd, gorsafoedd newydd yn Ne Cymru, a chynnydd mewn gwasanaethau ar y Brif linell Gogledd Cymru a’r llinell Wrecsam-Lerpwl.
Yn ogystal â’r cyllid, mae’r achos busnes terfynol ar gyfer y trawsnewidiad wedi’i gymeradwyo, gan roi goleuni gwyrdd i’r gwaith ddechrau yn y Gwanwyn 2026, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith i’w gwblhau erbyn 2029.